|
||
|
|
||
|
||
|
Ymgyrch Flamenco |
||
|
Wrth i ni agosáu at benwythnos Gŵyl y Banc, mae Heddlu Dyfed-Powys yn gofyn i'n cymunedau fod yn wyliadwrus o ymddygiad amheus, a allai fod yn gysylltiedig â rêfs anghyfreithlon yn ein hardaloedd gwledig. Gall y cynulliadau hyn barhau am ddyddiau ar y tro, gan achosi aflonyddwch i bobl sy'n byw gerllaw, bygwth bywyd gwyllt a difrodi tir fferm a choedwigaeth. Mae'r cynulliadau mawr hyn o bobl - a all yn aml fod dan ddylanwad alcohol a chyffuriau - yn dod â risg o danau a sbwriel yn cael ei adael ar ôl. Maent yn aml yn digwydd dros nos Wener neu nos Sadwrn a phan fydd y mynychwyr yn gadael y diwrnod canlynol maent yn dal dan ddylanwad ac yn peri perygl i ddefnyddwyr eraill y ffyrdd. Mae gan Heddlu Dyfed-Powys strategaeth sydd wedi’i hymarfer yn dda ar gyfer delio â reifs anghyfreithlon a digwyddiadau cerddoriaeth heb drwydded, fodd bynnag, byddent yn gofyn i’r cyhoedd roi gwybod am unrhyw weithgarwch amheus. I roi gwybod am unrhyw beth o'r natur hon, defnyddiwch y ddolen isod: Cysylltwch â ni | Heddlu Dyfed-Powys Neu rhowch wybod yn ddienw drwy CrimeStoppers: Naill ai Ar-lein gan http://crimestoppers-uk.org/ neu Dros y ffôn 0800 555 111 | ||
Reply to this message | ||
|
|





